Mae Cymuned Hyfforddwyr Mynydda yn ganlyniad i gydweithio ymysg Hyfforddwyr
Dringo annibynnol sy'n cynnig hyfforddiant mewn sgiliau mynydda a dringo
ledled Prydain. Mae’n cynnig llais unedig i hyrwyddo safonau uchel
a logo warantu dilysrwydd cymhwyster. Math o fwrdd marchnata i hyfforddwyr
os hoffech chi. Mae aelodaeth ar gael i unrhyw hyfforddwr sydd â’r ‘Mountain
Instructor Certificate’ a phrofiad eang o ddringo a hyfforddi.
Y ‘Mountain Instructor Certificate’ yw’r unig gymhwyster
sy’n ymdrin â’r gamwt llawn o sgiliau dringo, o ddringo
creigiau dringen sengl (single pitch) i aeaf yr Alban. Hwn yw'r haen
uchaf o gyfres o gymwysterau mynydda a ddyfernir gan MLTUK (Mountain
Leader Trainig UK). Mae deiliaid y dystysgrif wedi hysbysebu eu gwasanaethau
heb help gan unrhyw logo adnabyddus i gyfleu eu cymhwyster (nid yw MLTUK
yn cynnig un eto). Ffurfiwyd y Gymuned Hyfforddwyr Mynydda er budd y
cyhoedd, drwy lenwi blwch ac am y tro cyntaf mae’n darparu logo
gall gael ei adnabod fel arwydd o hyfforddiant dringo.
Egwyddorion y Gymuned yw dysgu dringo yn y DU mewn ffordd onest. Ei
bwriad yw cael ei adnabod fel meistri hyfforddi a thywys o'r safon uchaf,
a hynny trwy undod y logo. Bydd aelodau unigol yn ymdrechu i ledaenu
enw da'r Gymuned wrth iddynt eich helpu i ddatblygu eich sgiliau dringo
a mynydda ar unrhyw lefel. Byddech yn cael yr un safon uchel o wasanaeth
wrth ddringo llethrau hawdd, a dringo mynyddoedd â byddech yn ei
gael ar y llwybrau anoddaf yn y gaeaf.
Mae natur dringo ac ein presenoldeb yn yr amgylchedd mynyddig yn golygu
ei fod yn amhosib i hyfforddwr diddymu’r holl berygl o ddiwrnod
o raglen hyfforddi neu ddiwrnod wedi ei arwain. Sut bynnag, wrth fynd
gyda’r logo byddech yn cael eich sicrhau bod gan eich hyfforddwr
profiad a chymhwyster i leihau'r risg i'r eithaf ar bob math o dirwedd
ac ym mhob cyflwr tywydd.
Mae’r rhan helaeth o deithiau dringo a mynydda tramor gan aelodau
unigol yn brofiad gwerthfawr sydd yn eu gwneud yn hyfforddwyr gwell ym
Mhrydain (yn enwedig ym mynyddoedd yr Alban yn y gaeaf). Serch hynny,
mae deiliaid y bathodyn IFMGA yn gyfrifol am dywys yn yr Alpau, ac mae’r ‘British
Mountain Guides’ ymysg y goreuon. Yn yr un modd, teithiau Alpaidd
yw maes y ‘British
Association of International Mountain Leaders’.
|