Ffordd glir o helpu pobol i adnabod y safon uchaf o ddringo a dysgu sgiliau mynydda yn y DU. Gweld logo’r gymuned yw’r warant y byddech ar ben raff hyfforddwr sydd gyda’r WMCI cymhwyster (Winter Mountaineering and Climbing Instructor) – cymhwyster dringo gorau’r DU. Dim gweithwyr o dan hyfforddiant, dim gweithredwyr amheus. Dim ond hyfforddwyr cymwysedig sy’n angerddol eu hymrwymiad at ddringo creigiau yn y D.U. a dringo gaeaf yn yr Alban. ‘Does dim eithriadau i hyn.

Mae Cymuned Hyfforddwyr Mynydda yn ganlyniad i gydweithio ymysg Hyfforddwyr Dringo annibynnol sy’n cynnig hyfforddiant mewn sgiliau mynydda a dringo ledled Prydain. Mae’n cynnig llais unedig i hyrwyddo safonau uchel a logo warantu dilysrwydd cymhwyster. Math o fwrdd marchnata i hyfforddwyr os hoffech chi. Mae aelodaeth ar gael i unrhyw hyfforddwr sydd â’r WMCI a phrofiad eang o ddringo a hyfforddi.

 

Y WMCI yw’r unig gymhwyster sy’n ymdrin â’r gamwt llawn o sgiliau dringo, o ddringo creigiau dringen sengl (single pitch) i aeaf yr Alban. Hwn yw’r haen uchaf o gyfres o gymwysterau mynydda a ddyfernir gan MTUK (Mountain Training UK). Mae deiliaid y dystysgrif wedi hysbysebu eu gwasanaethau heb help gan unrhyw logo adnabyddus i gyfleu eu cymhwyster (nid yw MTUK yn cynnig un eto). Ffurfiwyd y Gymuned Hyfforddwyr Mynydda er budd y cyhoedd, drwy lenwi blwch ac am y tro cyntaf mae’n darparu logo gall gael ei adnabod fel arwydd o hyfforddiant dringo.

 

Egwyddorion y Gymuned yw dysgu dringo yn y DU mewn ffordd onest. Ei bwriad yw cael ei adnabod fel meistri hyfforddi a thywys o’r safon uchaf, a hynny trwy undod y logo. Bydd aelodau unigol yn ymdrechu i ledaenu enw da’r Gymuned wrth iddynt eich helpu i ddatblygu eich sgiliau dringo a mynydda ar unrhyw lefel. Byddech yn cael yr un safon uchel o wasanaeth wrth ddringo llethrau hawdd, a dringo mynyddoedd â byddech yn ei gael ar y llwybrau anoddaf yn y gaeaf.

 

Mae natur dringo ac ein presenoldeb yn yr amgylchedd mynyddig yn golygu ei fod yn amhosib i hyfforddwr diddymu’r holl berygl o ddiwrnod o raglen hyfforddi neu ddiwrnod wedi ei arwain. Sut bynnag, wrth fynd gyda’r logo byddech yn cael eich sicrhau bod gan eich hyfforddwr profiad a chymhwyster i leihau’r risg i’r eithaf ar bob math o dirwedd ac ym mhob cyflwr tywydd.

 

Mae’r rhan helaeth o deithiau dringo a mynydda tramor gan aelodau unigol yn brofiad gwerthfawr sydd yn eu gwneud yn hyfforddwyr gwell ym Mhrydain (yn enwedig ym mynyddoedd yr Alban yn y gaeaf). Serch hynny, mae deiliaid y bathodyn IFMGA yn gyfrifol am dywys yn yr Alpau, ac mae’r British Mountain Guides ymysg y goreuon. Yn yr un modd, teithiau Alpaidd yw maes y British Association of International Mountain Leaders.